Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (18) v2 |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) |
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM4810 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
a) Cydnabod potensial busnesau bach a chanolig i dyfu economi Cymru;
b) Creu’r amodau angenrheidiol ar gyfer mwy o weithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru; ac
c) Cynnig cymorth sy’n diwallu anghenion busnesau.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt b, ar ôl ‘Nghymru’ rhoi ‘drwy, ymysg pethau eraill, leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau, datblygu Cronfa Arloesi a chynnig grantiau hyfforddi i fusnesau sy’n cyflogi pobl ifanc ddi-waith.’
|
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM4812 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn credu bod Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan ei rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth; a
2) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 2, dileu “wneud datganiad clir na fydd yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol ganoli gwasanaethau oddi wrth Ysbytai Cyffredinol Dosbarth” ac yn ei le rhoi “gefnogi Byrddau Iechyd Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn modd priodol.”
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2) rhoi ‘llawdriniaethau brys a chyffredinol’ ar ôl ‘gwasanaethau’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod cleifion yn cael eu gwasanaethu orau gan wasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl at gartrefi’r cleifion, ac sy’n ddiogel yn glinigol, gan ddefnyddio rhwydwaith o ysbytai cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a chanolfannau rhagoriaeth.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Fforwm Clinigol Cenedlaethol, pan gaiff ei sefydlu, ystyried anghenion Ysbytai Cyffredinol Dosbarth wrth aildrefnu’r GIG yn y dyfodol.
|
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM4811 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn y sector preifat.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn lle “yn canolbwyntio ar gyfleoedd”, rhoi “yn cynnwys cyfleoedd” Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu ‘yn y sector preifat’ a rhoi yn ei le ‘yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi gweld gostyngiad o 3.7% rhwng mis Mehefin 2010 a mis Mehefin 2011, y gostyngiad mwyaf yn y DU. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai i helpu i gynyddu effaith Cronfa Swyddi Cymru a helpu i greu swyddi parhaol yn y sector preifat.
|
Cyfnod pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud) NDM4809 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe):
Yr Anabledd Cudd – Materion Clyw yng Nghymru
|
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mawrth, 4 Hydref 2011